Dug Caeredin
Fe gerddodd Dug Caeredin 400m o stâd Standringham yn Norfolk i’r Eglwys leol y bore yma ychydig ddyddiau yn unig ar ôl derbyn triniaeth i’w galon.

Daeth y Dug, sy’n 90 oed, adref dydd Mawrth ar ôl iddo dreulio pedair noson yn ysbyty Papworth. Aeth yno wedi iddo gwyno am boenau yn ei frest ar 23 Rhagfyr.

Cerddodd y Dug yng nghwmni ei fab Edward ond daeth y Frenhines ac aelodau eraill o’r teulu brenhinol yno mewn ceir.

Roedd tua 300 o bobl wedi dod i weld y teulu yn mynd i’r eglwys gan gymeradwyo pan gyrhaeddodd y Dug.