Mae merched yn gwneud yn llawer gwell yn y brifysgol pan nad oes bechgyn yn eu dosbarthiadau, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd tua 800 o fyfyrwyr busnes ac economeg wedi cymryd rhan yn yr arbrawf ym Mhrifysgol Essex.

Yn ôl canlyniadau’r ymchwil roedd merched oedd wedi eu dysgu mewn dosbarthiadau merched yn unig yn gwneud yn well yn eu harholiadau.

Cafodd y myfyrwyr blwyddyn gyntaf eu gwahanu i mewn i dri grŵp yn ystod modiwl cyflwyniadol eu gradd – un grŵp merched yn unig, un grŵp bechgyn yn unig, ac un grŵp cymysg.

Doedd yna ddim effaith ar ganlyniadau arholiadau’r bechgyn ond roedd marciau’r merched yn y grŵp merched yn unig 7.5% yn uwch ar gyfartaledd.

Serch hynny nid oedd yna wahaniaeth amlwg ym marciau eu gwaith cwrs.

Roedd y merched hefyd yn llawer mwy tebygol o fynychu’r dosbarthiadau os oedden nhw yn y grŵp merched yn unig.

Dywedodd un fyfyrwraig, Corina Musat, 20 nad oedd hi’n ymwybodol o natur yr ymchwil ar y pryd.

“Dw i’n meddwl fod yr awyrgylch yn fwy cyfeillgar am ein bod ni i gyd yn ferched,” meddai.

Ychwanegodd Emilia Matei, 20, myfyrwraig arall, nad oedd “yn cymryd cymaint o ddewrder i ateb cwestiwn mewn ystafell ddosbarth merched yn unig”.