Andy Murray
Bydd y chwaraewr tenis rhyngwladol Andy Murray ddim yn dathlu’r Nadolig eleni.

Yn hytrach na gloddesta a mwynhau yng nghwmni teulu a ffrindiau, bydd Andy yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer cystadleuaeth grand slam gynta’r flwyddyn yn Awstralia ar ddiwedd Ionawr.

Ar Ddydd Nadolig bydd yn rhedeg ar y traeth ger ei gartref yn Fflorida gan ei fod yn benderfynol o ennill cystadleuaeth grand slam am y tro cyntaf. Mae wedi dod yn agos sawl tro, ond heb wneud digon i sichrau buddugoliaeth.

Ond peidiwch â theimlo’n rhy drist wrth feddwl amdano yn gweithio’n galed ar Ddydd Nadolig. Mi wnaeth o fwynhau cinio Dolig arbennig tair wythnos yn ôl, gyda digonedd o dwrci a thatws a grefi, ond dim sbrowts gan ei fod yn eu casáu nhw!