Mae Aelodau Seneddol wedi galw am gosbi swyddogion trethi am lacio rheolau treth er mwyn arbed miliynau o bunnoedd i rai o gwmniau mwyaf Prydain – ac wedyn cuddio’r manylion rhag goruchwylwyr.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi rhybuddio fod miliynau mwy hefyd yn y fantol oni bai bod y system yn cael ei dynhau ar frys.

Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud bod angen tynhau’r system er mwyn osgoi’r argraff fod swyddogion Cyllid a Thollau yr HMRC yn mwynhau perthynas “rhy glos” gyda chwmniau mawr.


Mae’r Aelodau Seneddol hefyd wedi mynnu esboniad pam fod swyddgion wedi honni, yn anghywir, na allen nhw drafod cytundebau gyda’r pwyllgor, a pham eu bod wedi rhoi atebion “amhenodol, anghyson ac o bosib camarweiniol.”

Mae’r adroddiad yn dod ag ymchwiliad cyhoeddus tanllyd iawn i derfyn, a welodd Cadeirydd y pwyllgor dylanwadol iawn yma yn cyhuddo’r prif swyddog trethi, Dave Harnett, o ddweud celwydd.

Mae’r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol nawr wedi penodi cyn-farnwr i ymchwilio.

Mae Dave Harnett, sydd wedi cyhoeddi ei ymddeoliad yn ddiweddar, eisoes wedi cyfaddef iddo wneud camsyniad trwy ildio un achos gwerth miliynau o bunnoedd yn erbyn banc enfawr Goldman Sachs oherwydd diffyg treth ar daliadau bonws, ar ol iddo gael cyngor “anghywir” fod “problem cyfreithiol” yn ei atal rhag herio’r cwmni am y taliadau.

Yn ol yr amcangyfrif, gallai’r achos hwn ar ei ben ei hun fod wedi costio £8 miliwn i drethdalwyr – er bod un ffynhonnell o fewn y cwmni yn dweud fod y gost yn agosach i £20 miliwn.

Mae’r adroddiad hefyd wedi beirniadu’r ffaith fod Dave Harnett wedi mynychu 107 o giniawau gyda chwmniau, cyfreithwyr trethi a chynghorwyr dros gyfnod o ddwy flynedd – gyda’r pwyllgor yn poeni bod hyn yn ymddangos yn berthynas “rhy glos” rhwng y swyddog trethi ac unigolion oedd yn gyfrifol am daliadau treth uchel iawn.

Yn ol y pwyllgor, doedd yr HMRC ddim wedi rhoi digon o sylw i’r ffaith ei bod hi’n ymddangos bod buddiannau yn cael eu cyfaddawdu gan gyfarfodydd o’r fath.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud ei bod hi’n anheg bod mwy o ostyngiadau treth a hyblygrwydd wrth dalu treth i gwmniau mawr nag oedd ar gael i rai llai, ac unigolion.

Yn ystod y gwrandawiadau gan y pwyllgor, gwelwyd gwthdaro cyson rhwng y pwyllgor – yr AS Llafur Margaret Hodge – a Dave Harnett a nifer o swyddogion eraill dros eu amharodrwydd i ddarparu manylion yr achosion hyn.

Yn ol yr adroddiad, roedd yr HMRC yn “gwrthod yn gyson i roi atebion uniongyrchol i’n cwestiynau, sydd wedi bod yn broblem mawr i’n gallu ni i’w galw nhw i gyfrif am y cytundebau sydd wedi eu trefnu a chwmniau mawr.”