Mae cartrefi Prydain £131 biliwn yn dlotach yn 2008/10 nag oedden nhw yn 2006/08, yn ol ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datgelu heddiw fod cyfoeth cartrefi Prydain wedi disgyn 3.7% yn  y ddwy flynedd ddiwethaf – gan ostwng i gyfanswm o £3,375 biliwn.

Mae’r ffigyrau’n rhan o adroddiad newydd – Cyfoeth yn y Deyrnas Unedig – sy’n dangos fod cyfanswm cyfoeth bob cartref ar gyfartaledd, ar ol costau, wedi gostwng o £204,000 i £195,000.

Yn ystod yr un cyfnod, mae gwerth cyfartaledd cartrefi Prydain hefyd wedi gostwng, o £231,000 i £224,000 – tra bod gwerth pob morgais, ar gyfartaledd, wedi codi o £88,000 i £92,000.

Mae gwerth eiddo wedi gostwng ar draws Prydain rhwng 2006/08 a 2008/10 – heblaw am yr Alban a De Orllewin Lloegr, lle mai prin iawn oedd y newid. Ond mae gwerth eiddo ar gyfartaledd yn dal yn uwch yn Llundain na dim un rhan arall o Brydain – ac isaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.