Danny Alexander
Fe fydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander yn amlinellu’r datblygiadau diweddaraf sydd wedi bod yn y ffrae am bensiynau’r sector cyhoeddus heddiw.

Mae’r anghydfod yn parhau er gwaetha trafodaethau hir gyda’r undebau.

Ond mae diswyl iddo groesawu’r ffaith bod rhai undebau, sy’n cynrychioli gweithwyr iechyd a llywodraeth leol a rhai athrawon a gweithwyr yn y gwasanaeth sifil,  yn agos at ddod i gytundeb.

Fe fyddan nhw’n trafod y cynigion diweddara yn y flwyddyn newydd er mwyn penderfynu beth fydd y camau nesaf.

Ond mae undeb mwyaf y gwasanaeth sifil wedi dweud  y bydd yn rhaid gweithredu’n ddiwydiannol eto i atal y Llywodraeth rhag “gorfodi” gweithwyr yn y sector cyhoeddus i dalu mwy am eu pensiynau a gweithio’n hirach.