Llong Danfor
Bydd hi’n costio £3 miliwn er mwyn addasu llongau tanfor y llynges frenhinol fel bod merched yn gallu teithio arnynt, clywodd Aelodau Seneddol heddiw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, y byddai’r arian yn caniatáu creu ardaloedd cysgu ar wahân i fenywod ar y llongau.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prynu offer rhag ofn bod merch yn rhoi genedigaeth ar daith – gan fod y teithiau yn gallu parhau am fisoedd.

Wrth ateb cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Philip Hammond y byddai’r swyddogion benywaidd cyntaf yn dechrau gwasanaethau ar longau tanfor niwclear Vanguard o ddiwedd 2013 ymlaen.

Bydd menywod yn gallu dechrau gwasanaethu ar longau tanfor Astute o 2016 ymlaen.

Wrth drafod y newidiadau angenrheidiol er mwyn galluogi i swyddogion benywaidd ymuno â’r criwiau, dywedodd Philip Hammond y byddai’r cyfanswm o £3 miliwn yn “darparu llety addas a darparu cyflenwadau aer argyfwng fel bod unrhyw fenyw ar fwrdd y llong sy’n darganfod ei bod yn feichiog yn gallu anadlu o gyflenwad aer arbennig nes ei bod hi’n gallu cael ei symud o’r llong.”

Dywedodd yr AS Ceidwadol Nicholas Soames y dylai “treialon hir mewn amgylchiadau ffug” gael eu cynnal cyn bod menywod yn cael eu rhoi ar fwrdd y llongau.

Ond dywedodd Philip Hammond fod menywod eisoes yn cael gwasanaethu ar lynges yr Unol Daleithiau, ac mae’r “unig reswm nad oedd menywod ddim yn cael gwasanaethu ar longau tanfor o’r blaen  oedd herwydd bod y dystiolaeth feddygol yn awgrymu bod risg i iechyd fetws”.

“Mae hi bellach yn glir nad yw’r risg hwnnw yn bodoli.”