Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio bod angen gwrthod pwysau lobiwyr Dinas Llundain i lacio neu ohirio’r newidiadau i’r system bancio ym Mhrydain.

Yn ôl Jonathan Edwards AS, llefarydd economaidd Plaid Cymru, mae angen i ganghennau adwerthu a buddsoddi banciau gael eu gwahanu yn llwyr – fel nad ydyn nhw’n rhan o’r un sefydliadau.

“Ers cryn amser mae polisi Plaid Cymru wedi galw am wahannu adrannau buddsoddi ac adwerthu’r banciau,” meddai Jonathan Edwards heddiw.

Daw’r sylwadau yn sgil cyhoeddi adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynol dros Fancio – Adroddiad Vickers – sy’n galw am wahanu canghennau adwerthu a buddsoddi banciau Prydain.

Ond mae Plaid Cymru yn dweud heddiw bod angen i reolau newydd ar fanciau Prydain fynd ymhellach – a chreu sefydliadau sy’n gyfan gwbwl annibynol o’i gilydd.

“Y broblem gyda’r system a gefnogwyd gan Lafur a’r Ceidwadwyr am ddegawdau yw pan fo’r banciau’n gwneud elw, mae’r bancwyr yn gwneud arian – ond pan fo’r banciau’n gwneud colled, y trethdalwr oedd yn eu hachub,” meddai Jonatha Edwards.

“Mewn ffordd, nid oedd yno’r hyn a elwir yn ‘berygl moesol’ – er gwaethaf maint y fargen neu pa mor wael fu’r penderfyniad, ni allai’r banciau golli.”

Mae Plaid Cymru yn credu y bydd hyn yn sicrhau mwy o ddiogelwch i gynilion cwsmeriaid – heb y bygythiad eu bod am gael eu tynnu i mewn i golledion banciau buddsoddi, “fel yn yr argyfwng ariannol arweiniodd at orfod achub y banciau.”

Rhaid anwybyddu agenda’r bancwyr

Ond mae Jonathan Edwards yn rhybuddio ei bod hi’n bwysig anwybyddu’r pwysau gan “lobiwyr ariannol grymus”, fydd yn ceisio “gorfodi’r Llywodraeth i wanhau neu oedi” yr argymhellion yn Adroddiad Vickers.

“Fy mhryder i yw y bydd lobiwyr ariannol pwerus yn cyrraedd y Toriaid a Llafur gan geisio gwanhau’r argymhellion hyn neu eu hatal rhag dod i rym,” meddai Jonathan Edwards.

Yn ôl yr Aelod Seneddol dros Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae hefyd angen brys wrth gyflwyno rheolau newydd i system bancio Prydain.

“Efallai y byddai eu cyflwyno ymhen saith neu wyth mlynedd yn 2019 yn rhy hwyr i atal hyn rhag digwydd eto,” meddai.