Mae pedoffilydd wedi colli achos yn yr Uchel Lys ar ôl dadlau fod gorfod ymgarthu mewn bwced yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Roedd Roger Gleaves, 77, yn anhapus iddo orfod defnyddio bwced fel tŷ bach yn ystod ei gyfnod yng ngharchar Albany ar Ynys Wyth.

Roedd wedi gofyn am iawndal o £2,600, ond cafodd yr achos ei wrthod gan yr Ustus Hickinbottom yn Llundain.

Pe bai Roger Gleaves wedi bod yn llwyddiannus fe fyddai’r llywodraeth wedi gorfod gwario miloedd ar godi safonau hen garchardai.

Bydd Roger Gleaves yn cael ei ryddhau o’r carchar mewn saith mis. Roedd yn bresennol yn y llys i glywed y dyfarniad.

Dywedodd y dyn a gafwyd yn euog o dreisio dau fachgen 14 oed yn 1998 fod gorfod defnyddio bwced yn “ddiraddiol a dirmygadwy”.