Dywed cwmni HMV eu bod yn ystyried gwerthu eu hadran gerddoriaeth fyw ar ôl i’w colledion bron â dyblu yn hanner cynta’r flwyddyn.

Mae’r grŵp, a werthodd eu siopau llyfrau Waterstone’s yn ddiweddar, yn dweud eu bod yn arolygu HMV Live, sy’n cynnal 13 o safleoedd a nifer o wyliau gan gynnwys Lovebox yn Llundain, ac y gallai arwain at werthu’r adran.

Mae HMV yn berchen ar 252 o siopau yn y DU. Dywed y cwmni bod eu penderfyniad i werthu mwy o nwyddau technegol yn eu siopau wedi bod yn llwyddiannus, gyda chynnydd mewn gwerthiant o 144%.

Ond fe gyhoeddodd y cwmni golledion cyn treth o £45.7 miliwn yn y 26 wythnos hyd at Hydref 29 o’i gymharu a £27.4 miliwn y llynedd. Mae gwerthiant wedi gostwng 13.2% yn y saith wythnos hyd at 17 Rhagfyr.