Fe fydd newidiadau i forgeisi yn cael eu cyflwyno heddiw gan y corff sy’n rheoleiddio’r gwasanaethau ariannol. Y bwriad yw atal rhagor o fenthyg anghyfrifol.

Dywed yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) bod cyfraddau llog isel wedi helpu nifer o fenthycwyr, ond mae na beryg bod problemau ar y gorwel pan fydd cyfraddau yn dechrau codi.

Yn ôl adolygiad y FSA ni ddylai benthyciadau gael eu rhoi oni bai bod yna sicrwydd y gall y cwsmer ad-dalu’r morgais heb ddibynnu ar brisiau tai “ansicr” yn y dyfodol.