Vince Cable
Fe fydd y Llywodraeth yn derbyn holl argymhellion Comisiwn Annibynnol ar y Banciau.

Fe fydd hynny’n cynnwys gwahanu adrannau stryd fawr y banciau oddi wrth yr adrannau buddsoddi.

Ar raglen deledu Andrew Marr heddiw, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, y byddai’r Llywodraeth yn gweithredu holl argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Fancio dan gadeiryddiaeth Syr John Vickers.

Mae disgwyl y bydd y Canghellor, George Osborne, yn gwneud cyhoeddiad yn y Senedd fory, gan ddweud y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu cyn yr etholiad nesaf ac y bydd y trefniadau newydd yn eu lle erbyn 2019.

Gwrthwynebu

Mae’r banciau mawr yn gwrthwynebu’r newidiadau gan ddweud y bydd yn ychwanegu hyd at £12 biliwn at gost bancio – tua dwywaith mwy nag amcangyfri’r Comisiwn.

Roedd y Comisiwn, a gyhoeddodd ei adroddiad ym mis Medi, yn dadlau bod angen gweithredu i leihau’r anogaeth i fanciau gymryd risgiau gormodol ac i’w gwneud hi’n haws a rhatach i achub banciau sy’n mynd i drafferthion.

“Mae’n hollol gywir ein bod yn diogel economi Prydain,” meddai Vince Cable. “Allwn ni ddim mentro ailadrodd y chwalfa ariannol a gawson ni dair blynedd yn ôl.”

Roedd y Comisiwn wedi’i sefydlu i ymateb i’r trafferthion hynny, pan fu rhaid i’r Llywodraeth wario biliynau o bunnoedd yn achub banciau fel Northern Rock, Lloyds TSB ac RBS.