David Cameron - cefnogaeth?
Mae’r pôl piniwn diweddara’n awgrymu bod yna gefnogaeth i safiad Prif Weinidog Prydain tros ardal yr Ewro.

Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill tir a Llafur wedi llithro’n ôl yn yr arolwg Prydeinig diweddara’ gan bapur y Sunday Telegraph ac ICM.

Yn ôl hwnnw, mae sgôr y Ceidwadwyr wedi codi ddau bwynt i 40 a Llafur wedi colli dau bwynt i fynd i lawr i 34.

Dyma’r bwlch mwya’ rhwng y ddwy blaid ers holiaduron yn union wedi’r Etholiad Cyffredinol y llynedd.

Fe gafodd yr holi ei wneud yn y cyfnod ar ôl i David Cameron wrthod cefnogi cytundeb newydd i sefydlogi’r Ewro.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn aros yn yr unfan ar 14 pwynt.