William Hague
Mae Cyngor Diolgewlch y Cenhedloedd Unedig  wedi codi’r oll o’r gwaharddiadau ar fanciau Libya er mwyn ceisio lliniaru’r argyfwng ariannol yn y wlad yn dilyn y gwrthryfel yno.

Mae’r UDA wedi codi y rhan fwyaf o’r gwaharddiadau oedd ganddi hi yn erbyn Libya erbyn hyn hefyd.

Cafodd holl asedau banciau Libya dramor eu rhewi fel rhan o ymgyrch rhai o wledydd y byd yn erbyn llywodraeth y cyn arweinydd, Muammar Gaddafi.

Mae’r llywodraeth dros dro yn Tripoli wedi croesawu’r newyddion gan fod prinder arian parod yn Libya yn golygu ei bod yn anodd talu cyflogau y rhai sy’n cynnal gwasanaethau sylfaenol y wlad.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, wedi croesawu’r newyddion gan ddweud ei fod yn gam pwysig yn nghyfnod pontio Libya.

“Golyga hyn y bydd llywodraeth Libya yn gallu defnyddio’r oll o’r asedau sydd eu hangen i ail- adeiladu’r wlad gan greu sail i sefydlogrwydd yno a sicrhau bod y trigolion yn gallu trafod eu harian er mwyn cael y pethau sy’n hanfodol i fywyd beunyddiol,” meddai

Ychwanegodd y bydd yn rhaid i’r llywodraeth pontio weithio yn galetach rwan i greu cyfundrefn ariannol dryloyw ac atebol fydd yn sylfaen i ffyniant y wlad.

Bydd codi’r gwaharddiadau yn cael effaith mawr ar y diwydiant olew yn Libya gan ei fod yn rhan allweddol o economi’r wlad. Disgwylir y bydd lefel yr allforio yn ôl i’r hyn yr oedd cyn y gwaharddiadau erbyn diwedd 2012.