Mae disgwyl i’r tywydd oer droi’n arw wrth i wyntoedd cryfion ac eira ddisgyn ar draws Prydain gyda’r nos heno.

Mae’r rhagolygon yn dweud bod disgwyl i’r gwyntoedd gyrraedd hyd at 60 milltir yr awr, gan daro arfordir de Lleogr yn arbennig – cyn tynnu cymylau eira gydag e ar draws Prydain yn ystod oriau mân y bore.

Mae disgwyl hyd at wyth centimedr o eira ddisgyn dros Gymru a chanolbarth Lloegr, wrth i’r glaw trwm a ddaeth yn sgil y gwasgedd isel droi’n eira yn hwyr heno.

Yn ôl Paul Mott, sy’n aelod o dîm rhagolygon y tywydd gyda’r MeteoGroup, mae “systemau gwagedd isel yn symud i mewn o’r gorllewin ac mae disgwyl iddo symud tua’r gorllewin.

“Y newyddion da yw fod y gwyntoedd cryfaf yn gysylltiedig â’r systemau gwasgedd isel yn debygol o fod rhwng arfordir deheuol Lloegr a Ffrainc.

“Yn fwy lleol, dwi’n meddwl y byddwn ni’n gweld hyd at wyth centimedr o eira dros rai o fryniau Swydd Amwythig ac ar draws canolbarth Cymru, a draw i ganolbarth Lloegr.”

Does dim disgwyl i’r tymheredd godi’n llawer uwch na 6C dros y penwythnos, a gallai’r tymheredd yn ystod y nos ddisgyn i -4C, yn ôl y rhagolygon.

Mae Swyddfa’r Met wedi rhoi rhybudd i bobol fod yn wyliadwrus o dymheredd rhewllyd ar draws y wlad ar gyfer dydd  Sadwrn a dydd Sul, a does dim disgwyl iddi wella nes dydd Llun.

Yn ôl y prif ragolygydd tywydd, Anthony Astbury, gallai’r tywydd oes a garw dros y diwrnodau nesaf arwain at “lu o beryglon ar draws y wlad, o eira a rhew i law trwm a gwyntoedd cryfion.

“Rydyn ni’n cydweithio’n agos ag asiantaethau’r Llywodraeth a chymunedau er mwyn trio hysbysu pobol o’r sefyllfa.

“Rydyn ni’n cynghori’r cyhoedd i edrych ar ein rhagolygon yn rheolaidd ac i sicrhau eu bod nhw’n gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf.”