Mae cwmni archfarchnadoedd Morrisons i greu mwy na 7,000 o swyddi y flwyddyn nesaf wrth i’r cwmni barhau i ehangu.

Dywedodd y cwmni y bydd yn agor 25 o archfarchnadoedd newydd yn 2012 gan greu swyddi yn yr adran fwtsiera, pobi a physgod.

Fe fydd mwy na hanner y staff newydd yn un o’u archfarchnadoedd wedi bod yn ddi-waith a 75% o’r ardal leol, meddai Morrisons.

Fe fydd 300 o swydd hefyd yng nghanolfan ddosbarthu newydd Morrisons yn Bridgwater, a fydd yn darparu bwyd ar gyfer y De Orllewin a De Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Er gwaetha’r amodau economaidd anodd mae Morrisons yn parhau a’u cynlluniau i ehangu ac mae hynny’n golygu y byddwn ni yn chwilio am bobl i ymuno â ni yn y cymunedau hynny lle rydyn ni wedi sefydlu.

“Fe fyddwn yn rhoi cyfleoedd i nifer o bobl ac yn eu helpu i gael gyrfa ym maes adwerthu.”