Mae cwmni teithio Thomas Cook wedi cyhoeddi colledion o £398 miliwn heddiw ac yn dweud y bydd yn cau 200 o’u siopau dros y ddwy flynedd nesaf.

Roedd y cwmni eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn disgwyl cau 75 o’u safleoedd ar ôl iddyn nhw uno gyda busnes teithio Co-op. Roedd hynny’n eu gadael gyda 1,300 o siopau, ond heddiw fy gyhoeddodd y cwmni y bydd 125 yn ychwanegol yn cael eu cau.

Mae  Thomas Cook hefyd wedi cyhoeddi colledion cyn treth o £398miliwn yn y flwyddyn hyd at 30 Fedi, o’i gymharu â elw o £42 miliwn y llynedd. Mae’n debyg bod y sefyllfa economaidd gwael yn y DU ynghyd a’r trafferthion yn y Dwyrain Canol wedi cael effaith ar y busnes.