David Cameron a Nick Clegg
Fe fydd gweinidogion y blaid Geidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal cyfarfod o’r Cabinet heddiw i drafod y tensiynau sydd wedi codi yn sgil feto David Cameron ym Mrwsel.

Daw’r cyfarfod ar ôl i rwyg o fewn y Llywodraeth Glymblaid ddod i’r amlwg ddoe pan benderfynodd Nick Clegg beidio a mynd i Dŷ’r Cyffredin wrth i David Cameron amddiffyn ei benderfyniad i wrthod arwyddo cytundeb i achub yr ewro.

Ond mewn cyfweliad, mynnodd Nick Clegg bod y Glymblaid “yma i aros”.