Mae’r Royal Bank of Scotland wedi cael eu beirniadu am eu rheolaeth a’u penderfyniadau gwael a arweiniodd at gwymp y banc, mewn adroddiad hir-ddisgwyliedig gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) heddiw.

Mae’r awdurdod wedi cyhoeddi bod yna nifer o fethiannau yn rheolaeth y banc, ac nad oedden nhw wedi ystyried y risg yn ofalus cyn prynu’r banc ABN Amro am £50 miliwn.

Ond mae’r FSA hefyd wedi tynnu sylw at eu methiannau eu hunain gan ddweud nad oedden nhw wedi arolygu’r banc yn ddigonol ac wedi methu â herio rheolwyr RBS.

Mae’r adroddiad heddiw yn argymell y dylai banciau gael cymeradwyaeth rheolyddion y diwydiant cyn gwneud buddsoddiad sylweddol, ac yn gofyn a ddylai cyfarwyddwyr banciau gael eu gorfodi i egluro eu penderfyniadau pan mae banc yn methu.