Mae’r bocsiwr Amir Khan yn anhapus gyda pherfformiad y dyfarnwr yn ei ornest pencampwr y byd yn Washington neithiwr lle gafodd ei guro gan Lamont Peterson.
Mi wnaeth y dyfarnwr docio dau bwynt oddi ar Khan, oedd yn gam allweddol mewn gornest agos.
Mae tîm y bocsiwr wedi cadarnhau y byddan nhw’n gwneud cwyn swyddogol yn erbyn y dyfarnwr.
Mae’n debyg y bydd y ddau focsiwr yn ymladd â’i gilydd eto yn fuan.