Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i ferch 19 oed gael ei lladd yn Lerpwl.

Mi gafodd dynes 60 oed hefyd ei hanafu’n ddifrifol.

Mi wnaeth yr heddlu fynd i Stryd Hill yn Toxteth brynhawn ddoe ar ôl cael eu galw gan gymdogion.

Aethpwyd â’r ddwy ddynes a anafwyd i’r ysbyty. Bu farw’r ferch 19 oed ac roedd y ddynes arall mewn cyflwr difrifol.

Mae dyn 50 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac ymgais i lofruddio. Mae’n parhau i fod yn y ddalfa.