Nick Clegg
Tydi’r Dirprwy Prif Weinidog Nick Clegg ddim yn hapus fod David Cameron yn ei farn ef wedi ynysu’r Deyrnas Unedig yn Ewrop trwy beidio â chefnogi’r newidiadau i gytundeb yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ffynonellau sy’n agos at Mr Clegg wedi dweud ei fod yn anhapus pan glywodd am benderfyniad y Prif Weinidog.

Mae’n ofni y bydd y penderfyniad yn ynysu’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n benderfyniad cywir o ran swyddi ym Mhrydain. Ond mae’n amlwg fod y Canghellor George Osborne yn anghytuno gan ei fod ef wedi dweud bod penderfyniad Mr Cameron “wedi cynorthwyo i amddiffyn buddiannau economaidd Prydain.”