Mi wnaeth bapur newydd y News of the World hacio ffonau dros 800 o bobl.

Dyna sydd wedi cael ei gadarnhau heddiw gan y Comisiynydd Cynorthwyol Sue Akers, sy’n arwain ymchwiliad Scotland Yard i’r hacio. Dywedodd ei bod yn hyderus bod ei swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â phawb oedd â’u ffonau wedi cael eu hacio gan y News of the World.

Oherwydd y sgandal hacio, fe gaewyd y News of the World a oedd wedi cael ei gyhoeddi ers 168 o flynyddoedd. Mi arweiniodd hefyd at ymddiswyddiad pennaeth y Met ar y pryd, Sir Paul Stephenson, a’i ddirprwy, John Yates.