Jeremy Clarkson
Mae’r BBC wedi penderfynu gohirio pennod o’r gyfres boblogaidd QI oedd cyflwynydd Top Gear, Jeremy Clarkson yn cymryd rhan ynddi.

Ffilmiwyd y rhaglen dros yr haf ond mae’r BBC yn dweud y bydd y bennod yn awr yn cael ei dangos yn ddiweddarach.

Cododd ffrae yn ddiweddar yn dilyn ymddangosiad Clarkson ar y rhaglen The One Show pan ddywedodd y dylai’r gweithwyr sector gyhoeddus a oedd wedi mynd ar streic gael eu dienyddio o flaen eu teuluoedd. Fe dderbyniodd y BBC dros 30,000 o gwynion am ei sylwadau.