Mae’r heddlu sy’n chwilio am lofrudd mam a’i merch, y cafwyd hyd i’w cyrff mewn ty yn Southport wythnos diwethaf, wedi arestio’r lletywr Barry Morrow.

Cafwyd hyd i Angela Holgate, 54, a’i mam Alice Huyton, 75, yng nghartref ei merch  yn Heol Fairhaven, Churchtown ger Southport nos Sadwrn diwethaf.

Roedd ditectifs wedi bod yn awyddus i holi’r lletywr Barry Morrow, 51, oedd yn byw yng nghartref Angela Holgate.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Barry Morrow yn Ewrop ar ol iddo gael ei weld yn Ffrainc.

Cyhoeddodd yr heddlu heddiw ei fod wedi ei arestio yn y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi: “Mae’r heddlu wedi arestio dyn 51 oed o Southport ar amheuaeth o lofruddio Alice Huyton a Angela Holgate yn Heol Fairhaven, Southport.

“Fe fydd yn cael ei holi gan dditectifs heddiw.”