Mae bron i 4,000 o swyddi yn y fantol heddiw ar ôl i’r cwmni sy’n berchen ar siopau esgidiau Barratts a Priceless Shoes gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae gan y gadwyn siopau esgidiau Prydeinig 191 o siopau ar draws y DU, gan gynnwys un yng Nghaerdydd.

Mae’r cwmni wedi dweud bod y tywydd anarferol o fwyn dros yr wythnosau diwethaf wedi gwneud sefyllfa masnachu anodd yn waeth.

Mae’r gweinyddwyr o gwmni Deloitte wedi dweud y byddan nhw’n parhau i fasnachu yn y siopau tra eu bod nhw’n ceisio sicrhau prynwr i bob adain o’r busnes.