Drws agored?
Mae rhif 10 Downing Street wedi gwadu honiad papur newydd bod cwmni lobïo yn dylanwadu ar bolisïau’r Llywodraeth.

Ond, yn ôl papur yr Independent, fe gafodd penaethiaid un o’r cwmnïau ei ddal ar dâp yn brolio fod ganddo ddylanwad uniongyrchol ar y Prif Weinidog, y Canghellor a rhai o’u staff allweddol.

Mae’r adroddiad yn dyfynnu Tim Collins, un o gyfarwyddwyr Bell Pottinger, yn dweud ei fod wedi gweithio ers blynyddoedd gyda rhai fel David Cameron a George Osborne ac nad oedd “unrhyw broblem” gyda chael negeseuon atyn nhw.

Roedd y lobïwr wedi ei ddal gan newyddiaduraeth o’r Biwro Newyddiadureth Ymchwil ar ôl iddyn nhw esgus bod yn gleientiaid.

Yn ôl llefarydd ar ran swyddfa’r Prif Weinidog roedd yr honiadau’n “nonsens” ac yn “waradwyddus” ond mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu’n hallt.

Yn ôl eu llefarydd ar Swyddfa’r Cabinet, Jon Trickett, roedd y cyhuddiadau’n rhai “difrifol iawn” ac yn atgyfnerthu galwad y Blaid Lafur am gofrestr o lobïwyr.