Mae Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain mewn peryg o fynd ymhell dros eu cyllideb o £9.3 biliwn oni bai bod penderfyniadau llym yn cael eu gwneud i gwtogi costau.

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) wedi rhybuddio bod dyblu cost mesurau diogelwch y Gemau yn golygu bod na berygl y bydd angen rhagor o arian y trethdalwr.

Ond mae gweinidogion yn mynnu bod £500 miliwn yn dal ar gael i ddelio gydag unrhyw faterion sy’n codi.