Mae HSBC yn bwriadu cael gwared â channoedd o swyddi oherwydd sefyllfa “heriol” yr economi.

Dywed y banc, oedd wedi cael dirwy o £10.5 miliwn heddiw am roi “cyngor anaddas” i gwsmeriaid oedrannus, y bydd oddeutu 330 o swyddi yn cael eu torri.

Ond yn ôl undeb Unite fe fydd 551 o swyddi’n diflannu ac mae nhw wedi beirniadu’r banc am wneud cyhoeddiad “gwarthus” mor agos at y Nadolig.

Dywed HSBC y bydd y toriadau yn effeithio 232 o weithwyr  yn eu banc masnachol wrth i’w strwythur rhanbarthol “gyfuno” o naw i chwech, bydd 20 o swyddi’n mynd yn eu banciau yng Ngogledd Iwerddon a 58 yn yr adran dechnolegol.

Dywedodd pennaeth HSBC Joe Garner eu bod nhw’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa economaidd a’u bod nhw wedi ystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad.

Ond ychwanegodd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i helpu’r rhai sydd am golli eu swyddi.

r Fox,� fr�F �B sg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae’r “awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu prosiectau adeiladu ysgol sy’n hanfodol bwysig yn eu hardaloedd, a bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog yn caniatau iddyn nhw gyflawni’r blaenoriaethau hyn.”