Mae’r heddlu yn Southport yn chwilio am letywr ar ôl i’w landlordes a’i mam gael eu darganfod yn farw.

Cafwyd hyd i Angela Holgate, 54 oed, a Alice Huyton, 75 oed, gan berthynas yng nghartref Angela Holgate ger Southport nos Sadwrn.

Mae’r heddlu’n trin eu marwolaeth fel rhai amheus ac mae ditectifs yn awyddus i holi eu lletywr Barry Morrow, 51, oedd yn byw yng nghartref Angela Holgate yn Heol Fairhaven, Churchtown.

Mae’n debyg bod Barry Morrow wedi teithio i Ffrainc neu Sbaen.

Cafodd Alice Huyton ei gweld am y tro olaf ar nos Wener pan adawodd ei chartref yn Southport i ymweld â’i merch.

Roedd Angela Holgate wedi bod yn sâl ac heb gael ei gweld ers yr wythnos flaenorol.

Aeth perthynas i’r tŷ ddydd Sadwrn a darganfod eu cyrff. Dywedodd gŵr Alice Huyton, sydd yn ei 80au, ei fod wedi ei synnu o glywed am farwolaeth y ddwy. Roedd Angela Holgate yn fam i ddwy ferch ac wedi cael ysgariad.

Roedd car Angela Holgate, Citroen gwyn, hefyd wedi diflannu.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth.