Mae’r heddlu yn ceisio dod o hyd i ddyn ar ôl dod o hyd i ddau gorff.

Cafodd Heddlu Glannau Merswy eu galw i dŷ yn Southport tua 5.45pm neithiwr.

Daethpwyd o hyd i gyrff Angela Holgate, 54, a’i mam Alice Huyton, 75.

Dywedodd yr heddlu fod y marwolaethau yn rhai amheus ac y bydd archwiliadau post-mortem yn cael eu cynnal yn fuan.

Y gred yw eu bod nhw wedi eu mygu neu eu tagu.

Mae’r heddlu eisiau cael gafael ar ddyn fu’n aros yn y cartref yn ardal Churchtown.

Maen nhw wedi galw ar Barry Morrow, 51 oed, i gysylltu â nhw.

Mae’n ddyn gwyn, 5 troedfedd 7 modfedd, â gwallt brown byr a llygaid glas.

Credir y gallai fod wedi mynd i Ffrainc neu Sbaen.

Roedd Alice Huyton yn briod ac mae ei gŵr, sydd yn ei 80au, wedi “torri ei galon”.