Mae daeargryn bychan wedi ysgwyd Cernyw dros nos.

Tarodd y daeargryn 2.2 ar y raddfa Richter Bodmin am 2.40am, gan barhau am ychydig eiliadau cyn gostegu, yn ôl Cymdeithas Ddaearegol Prydain.

Doedd dim adroddiadau am ddifrod ac roedd trigolion Bodmin, Liskeard, St Austell, Padstow, Camborne, Wadebridge a Callington wedi teimlo’r daeargryn.

“Roedd yn swnllyd iawn, ac roedd y tŷ a’r gwely yn ysgwyd. Roeddwn i wedi meddwl fy mod i’n breuddwydio,” meddai Sue Dibble o St Tudy wrth y BBC.