Nick Clegg
Mae Nick Clegg wedi addo ymosod ar gyflogau “ffiaidd” yn y sector breifat, heddiw.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod yn bwysig fod cydbwysedd rhwng atal cynnydd mewn cyflogau yn y sector gyhoeddus a sicrhau nad yw cyflogau ar frig y sector breifat yn rhy uchel.

Ychwanegodd y bydd y glymblaid yn gweithredu yn y flwyddyn newydd er mwyn sicrhau nad oedd gweithwyr ar gyflogau isel yn teimlo mai nhw yn unig oedd yn gorfod aberthu er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr pwysleisiodd Nick Clegg na fydd y Llywodraeth yn gallu “dewis cyflogau cwmnïoedd yn y sector breifat”.

Ond dywedodd y byddai yna gamau er mwyn sicrhau fod cwmnïoedd yn datgelu cyflogau mawr, ac y bydd llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth newydd os oedd rhaid.

“Rydyn ni wedi bod yn llym iawn wrth dorri’n ôl ar bethau anghynaladwy yn y sector gyhoeddus, ac mae angen i ni fod yr un mor llym wth fynd i’r afael â chyflogau anghyfrifol yn y sector breifat,” meddai.

“Rydw i’n credu y dylai pobol gael eu talu yn dda os ydyn nhw’n llwyddo. Ond ni ddylai pobol gael llond bwcedi o arian, mewn amseroedd caled, am fethu.”

Fe fyddai’r newidiadau yn cynnwys rhoi cyfle i weithwyr cyffredin cwmnïoedd benderfynu faint mae eu cyflogwyr yn cael eu talu, a chyhoeddi’r gwahaniaeth mewn cyflogau rhwng y gweithwyr sy’n ennill y mwyaf a’r lleiaf.