David Cameron
Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu fod pleidleiswyr yn cefnogi’r modd y mae Llywodraeth San Steffan wedi mynd i’r afael â’r argyfwng economaidd.

Mae pôl piniwn ICM yn y Sunday Telegraph yn dangos fod cefnogaeth y Ceidwadwyr bellach yn uwch na Llafur, er gwaethaf y newyddion drwg am yr economi.

Roedd plaid David Cameron ar 38%, cynnydd o ddau bwynt, a’r wrthblaid wedi syrthio dau bwynt i 36%. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sefydlog ar 14%.

Bydd yr arolwg yn ergyd i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wrth iddo fethu a chymryd mantais o broblemau economaidd y wlad.

Serch hynny roedd y pôl piniwn yn awgrymu nad oedd y cyhoedd yn cefnogi rhai o fesurau llym y Llywodraeth er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.

Dim ond 37% oedd yn cefnogi cynllun y Canghellor, George Osborne, i godi’r oed ymddeol i 67 yn 2026, degawd ynghynt na’r disgwyl.

Roedd 50% yn gwrthwynebu gwneud hynny.

Holodd ICM 1,005 o oedolion dros y ffon ar 29-30 Tachwedd.