Aethpwyd a dyn i’r ysbyty ar ôl iddo ddisgyn 20 troedfedd o ysgol wrth geisio gosod goleuadau Nadolig y tu allan i’w gartref.

Rhybuddiodd doctor fod yr arfer o addurno y tu allan i dai yn ogystal â’r tu mewn wedi arwain at gynnydd yn nifer y damweiniau yn ymwneud ag addurniadau Nadolig.

Mae’r dyn bellach yn Ysbyty Brenhinol Derby ar ôl y ddamwain yn nwyrain canolbarth Lloegr.

“Roedd wedi disgyn tua chwe metr o’r ysgol wrth geisio gosod y goleuadau,” meddai Dr Dhusky Kumar oedd â’r ambiwlans awyr aeth a’r dyn i’r ysbyty.

“Mae rhagor o bobol yn defnyddio ysgolion hir erbyn hyn er mwyn gosod addurniadau ar y tu allan i’w tai ac maen nhw’n peryglu eu hunain.

“Wrth gwrs hyd yn oed wrth osod addurniadau y tu mewn i’r tŷ a sefyll ar ben cadair mae yna berygl y gallai rhywun dorri asgwrn.

“Does neb eisiau treulio’r Nadolig mewn plastr neu waeth, felly mae’n werth bod yn saff a gofyn i rywun arall ddiogelu gwaelod yr ystôl.

“Mae angen bod yn ofalus â cheblau trydan hefyd sy’n aml yn achosi damweiniau.”