Jeremy Clarkson
Mae cyflwynydd Top Gear, Jeremy Clarkson, mewn dŵr poeth unwaith eto ar ôl galw pobol sy’n taflu eu hunain o flaen trenau yn “hunanol”.

Bu’n rhaid i’r dyn 51 oed ymddiheuro yn gynharach yr wythnos yma ar ôl dweud y dylai pob un sy’n mynd ar streic gael ei saethu.

Yn ei golofn ym mhapur newydd y Sun dywedodd fod pobol sy’n eu lladd eu hunain ar reilffyrdd yn achosi aflonyddwch “anferth” i deithwyr.

“Mae gen i’r cydymdeimlad dwysaf ag unrhyw un sy’n credu y byddai marwolaeth yn well na byw,” meddai.

“Ond rhaid ystyried teimladau’r gyrrwr trên druan sy’n eich gweld chi’n gorwedd ar y rheilffordd ac sydd ddim yn gallu gwneud unrhyw beth i osgoi’r gwrthdrawiad.

“Dyw’r trên ddim yn gallu parhau â’r daith nes bod pob darn o gorff y dioddefwr wedi dod i’r fei. Ac weithiau mae’r pen hanner milltir o’r traed.

“Fe ddylen nhw newid y gyrrwr, symud unrhyw ddarnau mawr o’r dioddefwr sy’n weddill, sicrhau fod y trên yn symud eto cyn gynted a bo modd a gadael i’r llwynogod a’r adar wledda ar y darnau bach, gwaedlyd sy’n anoddach i’w ffeindio.”

Mae elusennau iechyd meddwl wedi beirniadu ei sylwadau. Dywedodd Paul Farmer, prif weithredwr Mind, fod ei sylwadau yn “hynod o ddi-chwaeth”, yn enwedig yn dilyn marwolaeth rheolwr Cymru, Gary Speed.

“Mae ei sylwadau yn mynd yn gwbl groes i weddill y cyfryngau sydd wedi bod yn fwy tosturiol tuag at bobol sydd yn lladd eu hunain,” meddai.

“Mae’r dyn yma yn siarad drwy’i het.”