Mae mwy o ddarpar-fyfyrwyr nag erioed wedi gwneud cais i ddechrau prifysgol yn yr hydref, yn ôl ffigyrau newydd gyhoeddwyd heddiw.

Mae yna bryder y bydd degau o filoedd o’r rheini yn cael eu siomi am na fydd yna ddigon o lefydd gwag ar eu cyfer nhw.

Mae 583,500 o bobol eisoes wedi cyflwyno cais, 28,000 yn fwy na’r llynedd – cynnydd o 5.1% yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd gan Ucas heddiw.

Y llynedd dim ond 487,300 gafodd le mewn prifysgol yn y pen draw, ac mae’n annhebygol y bydd yna ragor o lefydd gwag eleni.

Ffioedd dysgu

Y myfyrwyr fydd yn dechrau yn y brifysgol eleni fydd yr olaf i osgoi gorfod talu ffioedd dysgu o hyd at £9,000, fydd yn cael eu cyflwyno yn 2012.

Hynny mae’n debyg sy’n gyfrifol am y cynnydd mawr yn nifer y bobol sydd wedi gwneud ceisiadau i ddechrau ar eu haddysg bellach eleni.

Mae’r ffigyrau yn awgrymu bod darpar fyfyrwyr yn dewis pynciau mwy ymarferol gan gynnwys gwyddoniaeth a mathemateg yn hytrach na phynciau celfyddydol.