Mae arbenigwr ariannol wedi galw am wahardd anrhegion Nadolig eleni, er mwyn atal gwastraffu arian ar brynu pethau diangen.

 Yn ôl Martin Lewis, sylfaenydd y wefan MoneySavingExpert.com, mae angen i bobol feddwl o ddifri cyn gwario’u punnoedd prin ar anrhegion eleni, a meddwl mwy am arbed arian yng nghanol y cynni economaidd.

“Mae pobol ar draws Prydain yn chwyrnu a melltithio’r teimlad o ddyletswydd i wastraffu arian yn prynu anrhegion nad ydyn nhw’n gallu eu fforddio, i bobol na fydd byth yn eu defnyddio,” meddai.

Ac mae’n dweud fod y cynni ariannol presennol yn ei gwneud hi’n “bwysicach nawr nag erioed” i arbed arian.

 Yn ôl Martin Lewis, yr ateb gorau fyddai i wahardd anrhegion yn gyfan gwbl – “Peidiwch ag anfon anrhegion,” meddai – ond os oes raid gwneud, mae’n awgrymu defnyddio system ratach.

“Defnyddiwch rhyw system anrheg cudd rhwng ffrindiau,” meddai, lle mai dim ond angen un anrheg sy’n rhaid i bob person yn y grŵp ei brynu, “neu osodwch uchafswm ar y gost.

“Os ydych chi’n teimlo bod yn rhaid i chi wario ar bethau diwerth – cyfrannwch at elusen yn ei le.”

Yn ôl yr arbenigwr ariannol mae gormod o bobol wedi colli golwg ar yr holl bwrpas o roi anrheg yn y lle cyntaf, sef i helpu pobol ar eu ffordd gyda buddsoddiad bach at y dyfodol – wrth briodi, neu wrth gyrraedd carreg filltir o ran oed, meddai Martin Lewis.

Dal i wario…

Daw’r alwad wythnos yn unig ers i arolwg o siopwyr Prydain ddatgelu fod pobol yn bwriadu gwario’r un faint ar anrhegion eleni ag y gwnaethon nhw’r llynedd – er gwaetha’r amgylchiadau economaidd anodd.

Mae’r Big Money Index gan gwmni Axa wedi darganfod fod 58% o siopwyr yn dweud nad ydyn nhw am dorri’n ôl ar eu gwariant dros y Nadolig eleni.

Dim ond traean o’r 2,000 o oedolion a holwyd ar draws y Deyrnas Unedig oedd yn dweud eu bod nhw’n bwriadu torri’n ôl ar anrhegion, addurniadau, bwyd ac yfed dros yr ŵyl.