Mae Jeremy Clarkson wedi ymddiheuro am ddweud y dylai gweithwyr fu’n streicio ddoe gael eu “saethu”.

Fe wnaeth cyflwynydd Top Gear ei sylwadau tra’n ymddangos ar  raglen y BBC The One Show neithiwr. Dywedodd heddiw nad oedd wedi bwriadu i’w sylwadau gael eu cymryd o ddifrif.

Roedd ei sylwadau wedi cael eu beirniadu’n hallt gan arweinwyr undebau a gwleidyddion.

Roedd y BBC hefyd wedi ymddiheuro am ei sylwadau.

Erbyn prynhaw ma roedd y BBC wedi derbyn mwy na 4,700 o gwynion am sylwadau Jeremy Clarkson.

Roedd y Prif Weinodog David Cameron ac arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband ymhlith y rhai oedd wedi bod yn feirniadol o’r cyflwynydd a’r colofnydd dadleuol.

Dywedodd Clarkson heddiw:”Doeddwn i ddim am funud wedi bwriadu i’r sylwadau yma gael eu cymryd o ddifrif – ac mae hynny’n glir os ydyn nhw’n cael eu gweld yn eu cyd-destun.

“Os ydw i a’r BBC wedi pechu unrhyw un, yna rydw i’n fodlon ymddiheuro.”

Tra’n ymddangos ar The One Show neithiwr, sy’n cael ei chyflwyno gan y Gymraes Alex Jones a Matt Baker, dywedodd y cyflwynydd Clarkson y byddai’n hoffi “saethu” gweithwyr y sector cyhoeddus fu ar streic ddoe.

“Bydden i’n mynd â nhw allan a’u saethu nhw o flaen eu teuluoedd,” meddai Jeremy Clarkson, wrth i Alex Jones a Matt Baker edrych yn gynyddol anesmwyth ar y soffa, cyn ychwanegu y dylai’r streicwyr fynd allan i wneud “diwrnod iawn o waith.”

Roedd cannoedd o bobl wedi cwyno am ei sylwadau ar Twitter.