Mae perchennog bwytai y Hungry Horse a Loch Fyne yn dweud eu bod yn bwriadu creu 3,000 o swyddi newydd wrth iddyn baratoi i ehangu’r busnes.

Mae Greene King yn bwriadu creu’r swyddi dros y tair blynedd nesaf wrth iddyn nhw gynyddu nifer eu bwytai o 950 i 1,100.

Mae’r cwmni wedi gweld cynnydd o 16.3% yn eu gwerthiant bwyd yn chwe mis cynta’r flwyddyn wrth i gwsmeriaid droi at fwytai rhatach. Roedd eu helw yn £527.5m, cynnydd o 9% o’i gymharu â llynedd.

Mae Greene King yn cyflogi 20,000 o bobl yn eu busnes tafarndai a bragu. Mae’r busnes tafarndai wedi gweld gostyngiad o 2% yn eu helw i £35.5m.

Mae cwmni Marston’s hefyd yn bwriadu ehangu gan gyhoeddi ddoe eu bod am adeiladu 25 tafarn newydd a fydd yn creu 1,000 o swyddi yn ystod y flwyddyn nesaf.