Mae cwmni siopau coffi Starbucks wedi cyhoeddi cynlluniau i greu hyd at 5,000 o swyddi dros y pum mlynedd nesa wrth iddyn nhw ehangu eu busnes yn y DU.

Mae’r cwmni, sydd â 9,000 o siopau mewn 50 o wledydd, yn gobeithio ehangu eu siopau “gyrru drwodd” (drive-through)yn y DU o naw i 200.

Dywed y cwmni y bydd hanner y siopau “gyrru drwodd” yn cael eu rheoli gan gwmni tanwydd Euro Garages, tra bod gweddill y siopau yn cael eu rheoli gan Starbucks.