Roedd bachgen chwech oed gafodd ei wthio oddi ar falconi gan ei dad mewn gwesty yng Ngwlad Groeg, wedi ei ladd yn anghyfreithlon, meddai crwner heddiw.

Roedd Liam Hogan ar wyliau gyda’i dad John, ei fam Natasha a’i chwaer Mia pan fu farw ym mis Awst 2006.

Roedd y cwest yn Flax Bourton, ger Bryste wedi clywed tystiolaeth gan lygad-dystion oedd wedi gweld John Hogan yn sefyll tu ôl i’w blant a’u gwthio oddi ar  balconi ar y pedwerydd llawr cyn iddo hefyd neidio oddi ar y balconi.

Roedd Hogan, 37, yn rhy wael i fynychu’r gwrandawiad ac mae’n cael triniaeth mewn uned seiciatryddol.

Nid oedd ei gyn-wraig Natasha Visser yn y gwrandawiad chwaith. Ers marwolaeth Liam, mae hi wedi ailbriodi a bellach wedi symud i Awstralia i fyw gyda’i merch Mia, sydd bellach yn saith oed.

Roedd Liam wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben ar ôl cael ei wthio oddi ar y balconi yng Ngwesty Petra Mare gan ei dad, ond roedd ei chwaer, oedd yn ddwy oed ar y pryd, wedi goroesi gan dorri ei braich.

Cafodd cwest newydd ei agor ar ôl i’r rheithfarn wreiddiol yn 2008 – bod Liam wedi ei ladd yn anghyfreithlon gan ei dad – gael ei wyrdroi gan yr Uchel Lys.

Roedd dau farnwr wedi dweud bod rheithfarn y crwner ar y pryd, Paul Forrest, yn wallus a bod angen “ystyriaeth bellach”.

Roedden nhw’n dweud nad oedd cyflwr meddyliol Hogan wedi cael ei ystyried.

Yn ystod yr achos yng ngwlad Groeg roedd y rheithgor wedi penderfynu bod Hogan wedi dioddef o “wallgofrwydd” yn ystod y gwyliau yn Crete.

Roedd Hogan, o Bradley Stoke ger Bryste wedi mynd ar wyliau gyda’i gyn-wraig a’u plant er mwyn ceisio achub ei briodas.

Roedd y cwest wedi clywed tystiolaeth gan dri seiciatrydd. Roedd y tri wedi dod i’r casgliad bod Hogan yn wallgof pan wthiodd Liam a Mia oddi ar y balconi.

Ond roedd Dr Akuntundi Akinkummi, ymgynghorydd seicolegol fforensig yn y DU, yn feirniadol o’r adroddiadau, gan ddweud nad oedd yn credu bod Hogan yn dioddef o salwch meddwl pan laddodd ei fab.

Dywedodd Dr Akuntundi Akinkummi ei fod yn ddealladwy bod Hogan yn gandryll ac yn emosiynol ar ôl i’w wraig ddweud ei bod yn ei adael, ond nad oedd hynny’n golygu ei fod yn dioddef o salwch meddwl.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth dywedodd y crwner Maria Voisin ei bod yn cyflwyno dyfarniad o ladd anghyfreithlon.