Mae darlithydd wedi cael ei holi heddiw ynglŷn a hacio ffonau yn y News of the World.

Roedd Bethany Usher yn gweithio i’r News of the World a’r tabloid The People. Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tan fis Mawrth ar ôl cael ei holi gan yr heddlu yn Northumbria.

Cafodd Bethany Usher ei holi gan yr heddlu yn 2006 ar amheuaeth o roi gwybodaeth ffug ar gyfer swydd ym Mhalas Buckingham.

Mae Scotland Yard bellach wedi arestio 17 o bobl fel rhan o Operation Weeting sy’n ymchwilio i achosion o hacio ffonau.