Alastair Campbell
Dywedodd  Alastair Campbell wrth yr ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw ei fod wedi anfon drafftiau o’i dystiolaeth i gyfreithwyr, newyddiadurwyr a gwleidyddion cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau ar y we gan flogiwr.

Dywedodd cyn gyfarwyddwr cyfathrebu Tony Blair bod y ddogfen a gyhoeddwyd gan Paul Staines, sy’n blogio dan yr enw Guido Fawkes, yn fersiwn gynharach o’i dystiolaeth.

Dywedodd Alastair Campbell ei fod yn sicr na fyddai unrhyw un oedd wedi derbyn copi ganddo wedi ei basio mlaen at Paul Staines.

O ganlyniad i ryddhau drafft o’r dystiolaeth ysgrifenedig ar y we ddydd Sul, roedd yr Arglwydd Ustus Leveson wedi gwahardd cyhoeddi dogfennau o flaen llaw sydd wedi eu cyflwyno i’r ymchwiliad.

Mae’r  Arglwydd Ustus Leveson hefyd wedi galw ar Paul Staines i roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad ynglŷn â sut yr oedd wedi cael gafael ar ddatganiad Alastair Campbell. Mae disgwyl i Paul Staines roi tystiolaeth yfory.

Heddiw dywedodd Alastair Campbell ei fod yn credu y gallai’r stori fod Cherie Blair yn disgwyl babi, a ymddangosodd yn y Daily Mirror yn 1999, fod wedi ei chael o ganlyniad i hacio ffonau.

Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth bod newyddiadurwr wedi codi negeseuon ffôn Cherie Blair na’i ymgynghorydd Carole Caplin, ond roedd yn amheus o ffynhonnell ambell stori am wraig y cyn-Brif Weinidog.

Dywedodd hefyd y dylai Comisiwn  Cwynion y Wasg fod wedi ymyrryd yn ystod yr ymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann oherwydd y ffordd roedd y papurau newydd yn trin ei rhieni, gan ychwanegu bod y cyhoedd wedi eu brawychu gan y dystiolaeth oedd wedi dod i’r amlwg yn ystod Ymchwiliad Leveson.

Mae na ddirywiad wedi bod mewn newyddiaduraeth ymchwiliol yn y DU, a bod angen hybu hynny, meddai wrth yr ymchwiliad.