George Michael
Mae’r canwr George Michael yn “gwella’n raddol” o niwmonia, yn ôl meddygon yn Awstria sy’n ei drin.

Mae’r canwr 48 oed yn cael triniaeth yn ysbyty AKH yn Fiena ar ôl iddo gael ei daro’n wael wythnos ddiwethaf. Bu’n rhaid iddi ganslo gweddill ei gyngherddau, gan gynnwys dau yng Nghaerdydd.

Dywed meddygon ei fod wedi bod yn yr uned ofal dwys oherwydd difrifoldeb ei salwch, a bod angen iddo orffwys yn llwyr er mwyn iddo wella.