George Osborne
Mae Prydain yn wynebu chwe mlynedd arall o gynildeb ar ôl i George Osborne gyfaddef bod cyllid y wlad mewn cyflwr gwaeth nag oedd wedi ei ragdybio.

Wrth gyflwyno Datganiad yr Hydref ddoe, dyweddod y Canghellor bod sefyllfa bregus yr economi yn golygu y byddai ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â’i dyledion yn parhau ymhell ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae George Osborne ym Mrwsel heddiw i gynnal trafodaethau gyda arweinwyr Ewropeaidd ac mae wedi rhybuddio y gallai’r problemau waethygu os ydy argyfwng yr ewro yn mynd y tu hwnt i reolaeth.