Alastair Campbell
Fe fydd Alastair Campbell yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw – er bod ei dystiolaeth eisoes wedi cael ei rhyddhau gan flogiwr.

Roedd drafft o dystiolaeth ysgrifenedig cyn gyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10 i Ymchwiliad Leveson wedi cael ei roi ar-lein ddydd Sul gan Paul Staines, sy’n blogio dan yr enw Guido Fawkes.

O ganlyniad roedd yr Arglwydd Ustus Leveson wedi gwahardd cyhoeddi dogfennau o flaen llaw sydd wedi eu cyflwyno i’r ymchwiliad.

Mae hefyd wedi galw ar Paul Staines i roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad ynglŷn â sut yr oedd wedi cael gafael ar ddatganiad Alastair Campbell. Mae disgwyl i Paul Staines roi tystiolaeth yfory.