Mae gwraig 31 oed wedi cael ei harestio bore ma gan dditectifs sy’n ymchwilio i achosion o hacio ffonau yn News International.

Mae’n cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn Northumbria, meddai Scotland Yard.

Dywed swyddogion ei bod wedi ei harestio bore ma mewn cysylltiad â chynllwynio i godi negeseuon.