George Osborne
Mae George Osborne wedi bod yn ceisio argyhoeddi’r Deyrnas Unedig heddiw mai gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, y mae’r atebion gorau i’r argyfwng economaidd.

Y Llywodraeth yw’r unig rai all ddarparu’r “arweiniad ar gyfer yr adegau anodd” meddai wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw, dim ond i bobol ddysgu “byw o fewn eu gallu.”

Roedd Datganiad yr Hydref gan y Canghellor, George Osborne, yn adlewyrchu llawer o’r neges hon heddiw, gyda phwyslais arbennig ar swyddi, pensiynau a thrafnidiaeth.

Un o’r pethau cyntaf iddo’i nodi yn y pecyn mesurau newydd heddiw oedd y byddai cyflogau’r sector cyhoeddus yn codi 1% dros ddwy flynedd.

Cyhoeddodd y byddai’r pensiwn gwladol yn godi £5.30 ym mis Ebrill 2011 – i £110.45; ac y byddai credyd pensiwn yn codi £5.35.

Bydd manteision oed-gweithio yn cael eu codi, law yn llaw â lefelau chwyddiant fis Medi diwethaf, o 5.2%. Dywedodd y Canghellor y byddai hynny’n “gynnydd sylweddol yn incwm y bobol dlotaf” yn y Deyrnas Unedig.

O ran trafnidiaeth, fe gyhoeddodd y Canghellor na fyddai’r bwriad i godi 3c ychwanegol ym mhris tanwydd ym mis Ionawr yn cael ei wireddu wedi’r cwbwl, ac y byddai cynnydd mis Awst yn cael ei gyfyngu i 2c.

Roedd hefyd newyddion i blesio teithwyr trenau, gyda’r cynnydd mewn cost tocyn tren nawr yn cael ei gyfyngu i lefel Mynegai Pris y Gwerthwyr (RPI) ac 1%, yn hytrach nag RPI a 3%, fel y bwriadwyd.

O safbwynt busnesau, dywedodd y Canghellor y byddai £200 miliwn ychwanegol nawr ar gael dan y Cynllun Gwarantu Benthyciadau, a fyddai’n defnyddio’r cyfraddau llog isel sydd gan y Llywodraeth i ostwng lefelau benthyciadau i fusnesau bach.

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd y fod y Llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda dau grŵp cronfa bensiynau Prydeinig i ryddhau £20 biliwn o fuddsoddiad mewn isadeiledd, ac mae gweinidogion wedi rhoi sêl eu bendith ar 35 cynllun trafnidiaeth.

Ymateb llugoer gafodd y Canghellor i’w ddatganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, gyda Llafur yn cyhuddo’r Llywodraeth o orfodi toriadau llym ar bobol, a hynny heb ddod a dim gwelliant i sefyllfa’r economi.

Mae’r mesurau hefyd wedi cael eu beirniadu gan undeb UNSAIN, sydd eisoes yn paratoi at streic dros amodau pensiwn gweithwyr cyhoeddus yfory.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Unsain, mae “twf wedi arafu, ac mae arbenigwyr yn darogan dirwasgiad arall. Beth fydd hi’n cymryd i gael y Llywodraeth i sylweddoli fod Cynllun A yn methu?

“Nid yn unig y mae’r arbedion yma’n atal twf – mae’r modd y mae’n cael ei weithredu hefyd yn golygu bod anghyfiawnder yn tyfu. Mae toriadau’r llywodraeth, a’u hagenda arbedion, yn effeithio ar fenywod, yr ifanc, ac yn defynddio’r rheiny sy’n llai abl i dalu i lenwi’r diffyg ariannol.”