Dywed arweinwyr undeb eu bod yn siomedig ar ôl i’r Royal Bank of Scotland gyhoeddi eu bod yn cau un o’u safleoedd ym Mryste gan olygu bod 440 o swyddi’n diflannu.

Yn ôl y banc, mae’r toriadau yn rhan o gynllun i ddiswyddo 3,000 o weithwyr a gyhoeddwyd y llynedd. Mae’r trethdalwr yn berchen ar 80% o’r banc.

Mae undeb Unite wedi galw ar y banc i ail-ystyried cau’r safle, gan rybuddio y bydd yn cael effaith niweidiol ar yr ardal leol.

Cafodd y diswyddiadau eu cyhoeddi oriau’n unig cyn i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi datganiad yr Hydref i’r Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran RBS: “Fe wnaethon ni gyhoeddi y llynedd ein bod yn bwriadu lleihau nifer y canolfannau rydyn ni’n eu cynnal, ac y byddai hynny yn arwain at ddiswyddiadau.

“Rydan ni wedi cyhoeddi pa safleoedd fyddai’n cau dros y ddwy flynedd nesa gan roi 12 mis o rybudd i staff ynglŷn â’r bwriad i gau’r canolfannau.”